Busnes Cymreig sy’n edrych i’r dyfodol

Sefydlwyd y cwmni yn 2002 a’i leoli yng nghanol harddwch Gogledd Cymru.  Mae llawer o’n gweithwyr yn rhugl yn y Gymraeg ac rydym yn falch ein bod yn cyflogi staff lleol a chanddynt sgiliau mewn technoleg blaengar a’n bod yn allforio’r sgiliau yna i bedwar ban byd.

ETL Solutions employees

Mae pencadlys y gwaith ym Mharc Menai, rhwng Bangor a Phorthaethwy.  Mae gennym swyddfa ym Mlaenau Ffestiniog hefyd.  Yn y ddau leoliad yma y crëir ein meddalwedd a gwasanaethau rheoli data.

Defnyddir ein gwasanaeth integreiddio data, DataHub, gan gwmnïau megis Honda, Jaguar Land Rover a Start Up Loans Company (cwmni Llywodraeth Prydain).  Mae ein meddalwedd mudo data ni, Transformation Manager, wedi ei hintegreiddio i systemau cyrff megis NATO a JP Morgan.

Cwmni cydweithredol ydym, a’r gweithwyr biau’r cwmni.  Mae hwn yn rhoi rhyddid i ni wneud penderfyniadau fydd er lles hir-dymor i’r cwmni. Mae cael cyfran yn y cwmni yn ysgogi staff i hogi eu sgiliau arbenigol yn barhaus a, thrwy wneud hynny, sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy.